Loading...

Image Alt

Amdanom ni

amdanom ni

Cwmni cynhyrchu teledu a ffilm yw Triongl. Fe’i sefydlwyd yn 2017 gan Nora Ostler Spiteri ac Alec Spiteri. Ymunodd Gethin Scourfield yn 2018 wedi blwyddyn yn gweithio fel comisynydd drama yn S4C. Mae’r tri yn gynhyrchwyr profiadol gyda thrac record o gynhyrchu drama o safon sydd wedi ennill nifer o wobrwyon, gyda arbenigedd mewn cynhyrchiadau cefn-wrth-gefn (dwyieithog). Mae eu credydau diweddar yn cynnwys llwyddianau rhyngwladol fel Un Bore Mercher/Keeping Faith (S4C/BBC Wales/APC), Y Gwyll/Hinterland (S4C/BBC/All3Media international), Craith/Hidden (S4C, BBC Wales/All3Media international) a The Miniaturist (BBC/WGBH/All3Media international). Mae’r tri wedi nabod ei gilydd ers dros ddegawd ac wedi gweithio gyda’r gilydd ar nifer o gynhyrchiadau ar gyfer cwmniau eraill. Sefydlu cwmni cynhyrchu drama eu hunain oedd y cam amlwg nesa er mwyn cyfuno eu profiad a’u harbenigedd, ond yn fwy na hynny i wireddu eu uchelgais o rhannu straeon pwerus awthentig o Gymru i’r Byd.