Loading...

Image Alt

Arloesi

Ymchwil a datblygiad

Fel cwmni, rydym wedi ymrwymo i adeiladu diwydiant sgrîn mwy cadarn a chynhwysol yng Nghymru. Yn 2019 dechreuon ni ar ein taith ymchwil a datblygu gyda chymorth cyllid trwy Clwstwr i archwilio'r posibiliadau o ddatblygu cangen ymgynghori sy'n arbenigo mewn cynyrchiadau cefn wrth gefn. Ers hynny, rydym wedi gweld yn uniongyrchol y manteision o fuddsoddi mewn ymchwil ystyrlon a sut y gall hyn gael effaith gadarnhaol ar ansawdd y cynnwys rydyn ni’n ei gynhyrchu a bod o fudd i'r cast a'r criw.

tri

Gydag ymchwil a datblygu wedi'u hariannu gan Clwstwr, mae Tri yn brosiect uchelgeisiol sy'n edrych ar gymhlethdod cynyrchiadau cefn-wrth-gefn a chynyrchiadau dwyieithog. Gan ddefnyddio cyfres cyntaf Y Golau / The Light in the Hall fel arbrawf, rydym ni wedi bod yn gweithio ar y prosiect hwn gyda datblygwyr digidol er mwyn mapio'r broses gynhyrchu. Mae hyn wedi ein galluogi i weld lle mae angen gwelliannau o ran effeithlonrwydd cynhyrchu, lleihau CO2 ac yn bwysicach fyth, lles y cast a'r criw. Ein nod yw gorffen ein prototeip yn C3 2022 gan symud i sicrhau cyllid yn C3/4 2022.

TriSSI

Ein nod gyda TriSSI yw datblygu offeryn digidol i gefnogi cast a chriw sy'n gweithio ar gynyrchiadau dwyieithog gan ganolbwyntio'n benodol ar gynnwys cefn wrth gefn. Fel arweinwyr yn y diwydiant o ran dramâu cefn wrth gefn, rydym yn deall yr heriau ieithyddol sy'n gysylltiedig â chynyrchiadau o'r fath. Gan weithio gyda'r darparwr iaith e-Ddysgu yng ngogledd Cymru Say Something In (SSI), a chyda chymorth ariannol gan Cymru Greadigol, rydym yn datblygu platfform i gefnogi actorion sy'n gweithio'n ddwyieithog ac yn annog y rhai nad oes ganddynt yr hyder ieithyddol i weithio mewn sawl iaith.