Loading...

Image Alt

Bethan Jenkins

Bethan Jenkins

Cynhyrchydd Datblygu

Cefndir byd addysg sydd gan Bethan, gan gynnwys cyfnod fel athrawes Gymraeg â Saesneg mewn ysgol gyfun yng Nghwm Rhondda.  Ar ôl gweithio fel cyfieithydd a golygydd ar ei liwt ei hun am sawl blwyddyn, daeth cyfle i symud ymlaen at antur newydd gydag S4C. Yno bu’n arwain ar eu Strategaeth Gwobrau fel rhan o’r Tîm Comisiynu cyn ehangu ei gorwelion a dechau gweithio ar sgriptiau a Drama. Bu’n rhan o Ystafell Ysgrifennwyr gyda Roger Williams (Gwledd, Bang), Lee Haven Jones (The Bay, Dr Who) a Rhiannon Boyle (Anfamol). Mae’n ddarllenwraig frwd yn ogystal â bod yn wyliwr Drama o bob math. Mae Bethan ar binnau i ddechrau ei gyrfa Datblygu Sgriptiau gyda Triongl a gweithio ar ddod o hyd i leisiau newydd sy’n adlewyrchu Cymru yn ei holl ogoniant.