Loading...

Image Alt

Gethin Scourfield

GETHIN SCOURFIELD

Cyd-Gyfarwyddwr Creadigol – Drama & Cerddoriaeth

Mae Gethin wedi gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm ers yr 80au cynnar. Fe gyd-sefydlodd y cwmnioedd cynhyrchu Cymreig llwyddiannus Criw Byw a Boda cyn ymuno â’r BBC fel Uwch Gynhyrchydd yn 2001. Ar ôl gadael y BBC yn 2006 bu’n gynhyrchydd a chyfarwyddwr llawrhydd yn datblygu a chynhyrchu prosiectau drama a cherddoriaeth ar rhan sawl cwmni cynhyrchu annibynol yn ogystal â’r BBC. Rhwng 2011 a 2016 bu’n cynhyrchu dau gyfres cyntaf y ddrama ditectif llwyddiannus Hinterland/Y Gwyll (BBC4/S4C/A3M International). Yn 2017 fe gynhyrchodd The Miniaturist (BBC1/WGBH) addasiad o’r nofel hynod llwyddiannus gan Jessie Burton. Bu Gethin yn gweithio fel comisynydd drama gweithredol yn S4C rhwng Mai 2017 a Mai 2018, a bu’n Uwch Gynhyrchydd ar eu rhan ar Un Bore Mercher/Keeping Faith (S4C/BBC), Bang! (S4C/BBC) a Craith/Hidden (S4C/BBC4). Ymunodd â Triongl yng Ngorffennaf 2018.