Loading...

Image Alt

Nora Ostler Spiteri

Nora Ostler Spiteri

Cyd-Gyfarwyddwr Creadigol – Arloesi & Drama

Ers sefydlu Triongl Cyf. mae Nora wedi cynhyrchu y gyfres ddrama Pili Pala (Butterfly Breath) a chyfres gerddoriaeth Lleisiau Eraill dan faner y brand Gwyddelig, Other Voices, yn ogystal â datblygu llechen amrywiol y cwmni. Yn 2016/17 hi gynhyrchodd cyfres cyntaf Keeping Faith/Un Bore Mercher gyda Vox Pictures – yn serenu enillydd BAFTA Cymru, Eve Myles – a ddaeth yn lwyddiant dros nos wrth dorri record niferoedd gwylwyr BBC iPlayer pan ei rhyddhawyd, ac o ganlyniad cafodd ei ddarlledu ar BBC 1 led led Prydain. Bu’n gweithio am ddeg mlynedd gyda Fiction Factory, cwmni annibynol Cymraeg uchel iawn ei barch. Tra yno fe gynhyrchodd trydedd gyfres Hinterland: Y Gwyll — enillydd Gwobrau CINE Golden Eagle a Drama Gorau yr Wŷl Ffilm Geltaidd. Rhwng 2011 a 2015 fe gynhyrchodd 55 pennod o’r gyfres ddrama boblogaidd Gwaith/Cartref (Home/Work),  a enillodd y wobr am y Ddrama Gorau yn y Gwŷl Ffilm Geltaidd (2013), ac a ddosbarthir yn rhyngwladol gan Passion Distribution.