drama - 4 x 48'

Pili Pala

Mae Pili Pala yn canolbwyntio ar benderfyniad dynol ond ‘ymarfer meddygol gwael’ â sgil-effeithiau torcalonnus. Mae Sara Morris (Sian Reese-Davies – Craith / Hidden) – uwch ymgynghorydd mewn Adran Meddygaeth Ffetws – yn peryglu ei gyrfa ac yn rhoi ei bywyd personol o dan straen annioddefol – pan gytuna, er gwaetha cyngor ei chydweithwyr – i dderbyn ei ffrind Elin (Fflur Medi Owen) fel claf. Drama am deulu a chyfeillgarwch â themâu dirdynnol: teyrngarwch a brad; yr anobaith sy’n dod o fethu cael plant; â’r cyfyng-gyngor moesol ac emosiynol sy’n dod gyda terfynu beichiogrwydd.

Blwyddyn
Darlledwr

S4C

Cyfarwyddwyr

Claire Winyard, Rhys Carter

Awdur

Phil Rowlands

Cast

Sian Reese-Williams, Fflur Medi Owen, Catrin Mara, Owen, Arwyn, Rhys ap Trefor

Gwobr

2020 - ENWEBWYD - RTS Cymru & Bafta Cymru - Drama Gorau