Ar y 1af a’r 2ail o Dachwedd 2019 teithiodd Lleisiau Eraill – gŵyl gerdd a chyfres o raglenni cerdd Gwyddelig – o Dingle ar arfordir gorllewin Iwerddon i Aberteifi ar arfordir gorllewin Cymru, am benwythnos rhyfeddol o gerddoriaeth yn dathlu’r cysylltiadau cerddorol a diwylliannol hirsefydlog rhwng yr ardaloedd Celtaidd hyn. Dros y digwyddiad 2 ddydd, cyflwynodd Lleisiau Eraill Aberteifi gasgliad aruthrol o dros 45 o ddigwyddiadau cerddorol a diwylliannol – gan gynnwys perfformiadau gan Celeste, Gruff Rhys a Gwenno – yn rhad ac am ddim, mewn lleoliadau ledled Aberteifi. Huw Stephens a Kizzy Crawford oedd yn cyflwyno i S4C. Cynhyrchwyd mewn partneriaeth â South Wind Blows a Theatr Mwldan. Yn 2021 cynhaliwyd Lleisiau Eraill yn Nghaerdydd fel rhan o Wŷl 2021, a cynhyrchodd Triongl rhaglen awr o hyd ar gyfer S4C ac RTE yn dangos uchafbwyntiau’r digwyddiad gan gynnwys perfformiadau gan Berwyn, Juice Menace ac Ani Glass. Bydd Lleisiau Eraill yn dychwelyd i Aberteifi yn 2022.