Alec Spiteri
Rheolwr Cyfarwyddwr
Mae Alec yn Gynhyrchydd Llinell profiadol gyda dros ddegawd o brofiad yn y diwydiant. Yn 2020 bu’n gynhyrchydd llinell ar ail gyfres The A List i cynhyrchiad Kindle Entertainment ar gyfer Netflix. Cynhyrchodd ddrama gyntaf Triongl, ‘Pili Pala/Butterfly Breath’ yn ogystal â Other Voices/Lleisiau Eraill 2019 a 2021, prosiect ar y cyd rhwng Triongl, y cwmni cynhyrchu Gwyddelig South Wind Blows a Theatr Mwldan – digwyddiad cerddorol â ddarlledwyd ar RTE ac S4C. Cyn sefydlu Triongl yn 2017 bu’n gynhyrchydd llinell ar y rhaglen hynod lwyddiannus Un Bore Mercher/Keeping Faith, a bu’n allweddol yn sefydlu’r swyddfa gynhyrchu ar gyfer y ddrama ditectif Hinterland/Y Gwyll cyn mynd ati i weithio fel cynhyrchydd llinell ar bum cyfres o Gwaith/Cartref i S4C.