Loading...

Image Alt

Angharad Elen

Angharad Elen

Cynhyrchydd Datblygu

Mae Angharad yn awdur a chynhyrchydd sydd wedi gweithio ym myd drama ers 18 mlynedd. Dechreuodd ei gyrfa fel Rheolwr Llenyddol i Sgript Cymru, cwmni theatr sgrifennu newydd yng Nghaerdydd, gan symud i weithio i gwmni teledu Cwmni Da yn 2006. Cafodd ei phenodi yn Gynhyrchydd Datblygu Drama y cwmni yn ddiweddarach. Cynhyrchodd raglenni dogfen arobryn yn cynnwys Gerallt Merêd (S4C) i’r cwmni, ynghyd â chynhyrchu a sgrifennu dramâu a dramâu-dogfen ar gyfer y teledu. Cafodd ei ffilm fer i blant, Titsh, ei darlledu mewn 11 tiriogaeth wahanol ac mae ei rhaglen ddrama i blant meithrin, Deian a Loli – sydd bellach yn ei hwythfed mlynedd o gynhyrchu – wedi ennill sawl gwobr, wedi ei gwerthu i sawl tiriogaeth wahanol ac wedi esgor ar gyfres o lyfrau, gyda ffilm nodwedd a chynhyrchiad theatr ar y gweill. Creodd y gyfres ddrama Stad (6×60’) i S4C yn 2021 gan gyd-storïo’r gyfres a sgrifennu tair pennod. Cyd-sgriptiodd y golygfeydd Cymraeg ym mhennod ‘Tywysog Cymru’ o The Crown (Leftbank/Netflix) a mynychodd gwrs cynhyrchwyr EAVE yn 2020. Mae ei chynyrchiadau drama a dogfen wedi ennill gwobrau Broadcast, Bafta Cymru, Gŵyl Cyfryngau Celtaidd a New York Film and Television awards. Mae’n byw yn Llandwrog, ger Caernarfon, ac yn fam i dri o blant.