Loading...

Image Alt

Helen Davies

Helen Davies

Rheolwr Prosiect Arloesi

Mae Helen yn ymchwilydd academaidd ac ymarferydd cyfryngau profiadol gyda dros 10 mlynedd yn gweithio yn y sector sgrin. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Sosioieithyddiaeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau o Brifysgol Aberystwyth ac wedi gweithio ar sawl prosiect ymchwil cydweithredol rhwng diwydiant a’r byd academaidd. Rhwng 2010 a 2012 bu’n gweithio ar Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng Boom Cymru a Phrifysgol Aberystwyth, sef arolwg cyntaf o’i fath yn edrych ar ymgysylltiad cynulleidfaoedd ifanc â’r cyfryngau Cymraeg. Yn 2019 arweiniodd yr ymchwil cynulleidfa academaidd ar brofiad AR arobryn Wallace and Gromit The Big Fix Up (Fictioneers a PDC). Yn 2021 bu’n gyd-awdur adroddiad Arolwg Sgrin Cymru 2021, sef mapio cynhwysfawr o’r sector sgrin yng Nghymru y tu hwnt i’r CCR, yn edrych yn benodol ar hyfforddiant yn y sector sgrin. Ar hyn o bryd mae hi’n Ymgynghorydd Ymchwil a Datblygu i Triongl yn gweithio ar nifer o brosiectau Ymchwil a Datblygu sy’n edrych i wella’r broses gynhyrchu ar gyfer cynyrchiadau dwyieithog.