Sophie Warren
Cynorthwydd Datblygu
Hyfforddodd Sophie feel Actor yn R.W.C.M.D ac mae ganddi MA mewn Ysgrifennu ar gyfer y Sgrin. Ar ôl gweithio yn y theatr am 5 mlynedd, dychwelodd i Gaerdydd i ail-hyfforddi fel golygydd sgriptiau teledu gyda BBC Writersroom a SGIL Cymru. Mae hi’n dysgu’r Gymraeg. Fel awdur, mae hi wedi gweithio gyda BOOM Cymru, Theatr Clwyd, Y Sherman, the Other Room a Camden People’s Theatre, ac yn fwyaf diweddar enillodd ’Sgript Orau’ am ei Ffilm i BBC Cymru gydag ‘It’s My Shout!’ Gweithiodd Sophie fel Golygydd Sgriptiau Cynorthwyol ar gyfer ‘It’s My Shout!’ yn 2023, ac mae hi bellach yn olygydd sgriptiau ac yn fentor ar gyfer eu ffilmiau Iaith Saesneg. Gwnaeth hyfforddeiaeth Screenskills 6 mis fel golygydd sgriptiau ar ‘Lost Boys and Fairies’ i’r BBC gyda Duck Soup. Treuliodd Sophie 6 mis hefyd yn gweithio yn ‘Duck Soup Cardiff’ fel cynorthwyydd datblygu.